RWAS
-  Cartref  -  Penwythnos Rhug  -  Sir Nawdd  -  Digwyddiadau  -  Aelodaeth  -  Noddwyr  -  Newyddion  -  Cysylltu gyda ni  -  English  -


Croeso i wefan Sioe Amaethyddol Frenhinol Clwyd

Clwyd yw Sir Nawdd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru eleni. Mae'r system siroedd nawdd yn golygu ein bod yn cael y fraint a'r anrhydedd o noddi Sioe Frenhinol Cymru bob 13 mlynedd.

Mae'r sir yn brysur gydag ymgyrch codi arian ar hyn o bryd i gasglu arian tuag at adeiladu Neuadd Fwyd newydd ar faes y Sioe.

Mae codi arian yn rhan annatod o'r system Siroedd Nawdd, ond mae agwedd bwysig arall i'r flwyddyn fel sir nawdd hefyd, sef dod â phawb ynghyd i fwynhau'r profiad o fod yn sir nawdd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 2008!

Trebor Edwards

Etholwyd Trebor Edwards o Ben y Bryniau, Betws Gwerfyl Goch, ger Corwen yn Llywydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru am y flwyddyn 2008.


Clwyd Royal Welsh

Mae Trebor yn adnabyddus fel un o fridwyr gwartheg gorau’i gyfnod yng Nghymru. Mae wedi arddangos gwartheg yn llwyddiannus yn nifer o sioeau mwyaf blaenllaw’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys Sioe Frenhinol Cymru, lle’r enillodd gystadleuaeth yr Heffer Orau gyda Welsh Queen yn 2003 ac yn y Ffair Aeaf lle’r enillodd y Brif Bencampwriaeth yn 2000.

Ar y llwyfan ehangach mae’n adnabyddus am ei lais tenor cyfoethog ac mae wedi canu i gynulleidfaoedd ar hyd a lled y byd. Mae hefyd yn wyneb adnabyddus ar y teledu yng Nghymru ac wedi cyflwyno ei raglen deledu ei hun ar HTV.

Ffermwr llaeth oedd i gychwyn ond newidiodd i gadw bîff a defaid yn y 70au er mwyn canolbwyntio ar ei ganu. Mae wedi diddanu Cymdeithasau Cymraeg dramor a hefyd wedi difyrru ar amryw fordeithiau.

Fel tenor, mae wedi ennill nifer o gystadlaethau mewn gyrfa a ddechreuodd ochr yn ochr â’i dad, ei daid a’i dair chwaer. Mae wedi recordio’n helaeth gan gynnwys pum record aur a welodd werthiant o dros 100,000 yn ogystal â chynhyrchu naw Cryno Ddisg.

Mae ganddo ef a’i wraig Ann bedwar o blant Gwyn, Erfyl, Catherine a Rose ac maent i gyd yn ymwneud â’r byd amaeth. Mae Trebor yn llywodraethwr ysgol, yn aelod o’r cyngor cymuned a’r capel lleol.

“Fel teulu rydym wedi bod yn ymwneud â Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ers blynyddoedd. Mae’r Sioe Frenhinol yn uchafbwynt yn ein calendr bob blwyddyn” meddai Trebor “Mae’n fraint ac yn anrhydedd cael fy ngwahodd i fod yn Llywydd ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r pwyllgorau apêl sydd wedi eu sefydlu ar draws ardal Clwyd i godi arian tuag at adeiladu Neuadd Fwyd newydd ar Faes y Sioe”

LLYSGENHADES CAFC 2008

Miss Gwen Davies, Fferm Trelan, Sir y Fflint.

Mae’n fraint arbennig i mi gael cynrychioli y sir nawdd fel Llysgenhades CAFC yn ystod 2008. Mae’r Sioe Fawr yn mynd o nerth i nerth ac rwy’n mwynhau blwyddyn brysur yn cynrychioli’r gymdeithas a’r sir yn ein digwyddiadau codi arian.

Datblygais ddiddordeb brwd mewn amaethyddiaeth a materion cefn gwlad yn ystod fy magwraeth yn yr ardal brydferth o gwmpas Bryniau Clwyd. Astudiais am radd yng Ngholeg Harper Adams ac ar ôl gweithio gyda'r NFU am y ddwy flynedd diwethaf yn delio a materion polisi, rwyf bellach yn Rheolwr Datblygu Business gyda'r Undeb yng Ngogledd Cymru. Rwy’n gweithio yn agos gydag ysgrifenyddion y grwpiau NFU lleol i recriwtio a chadw aelodau ac i hyrwyddo'r gwaith rydym yn gwneud ar ran ein haelodau yn lleol, yn genedlaethol ac ar lefel Ewropeaidd.

Medraf ddweud yn hollol ddiffuant fy mod wedi bod yn falch o’r cyfle i gynrychioli’r diwydiant amaeth. Mae gennym yma yng Nghymru, a thrwy’r Deyrnas Unedig, ddiwydiant sy’n cyrraedd y safonau cynhyrchu uchaf posib ym maes diogelwch bwyd, lles anifeiliaid a gofal am yr amgylchedd. Mae digwyddiadau fel y Sioe Fawr yn cynnig llwyfan perffaith i ni arddangos ein cynnyrch a chodi ymwybyddiaeth am y dulliau cynhyrchu yma. Rwy’n edrych ymlaen at barhau i gefnogi'r diwydiant yn fy rôl newydd.

Rwy’n siwr eich bod, fel finnau, yn edrych ymlaen at Sioe lwyddiannus unwaith eto'r flwyddyn yma ac rwyf innau yn edrych ymlaen at gyfarfod gyda chi yn un o’r llwyth o ddigwyddiadau sydd ar y gweill yn 2008.




Clwyd Royal Welsh

Am unrhyw ymholiadau e-bostiwch: enquiries@clwydroyalwelsh.org                               Website Design by Tengo Media