|
|
LANSIO GWEFAN SIR NAWDD 2008
Lansiwyd gwefan fydd yn gyfrwng i roi hwb i apêl codi arian Sir Nawdd Clwyd gan Trebor Edwards, Llywydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.
Mae’r wefan www.clwydroyalwelsh.org yn cynnwys gwybodaeth am y sir nawdd yn ogystal â rhestr o ddigwyddiadau ar y gweill, y newyddion diweddaraf a manylion am gyfleodd noddi i fusnesau a chwmnïau. Noddwyd y wefan gan Geraint a Jane Evans o barc carafannau ParcFarm, Llanarmon yn Iâl, Sir Ddinbych.
|
|
|

|
|
“Pob blwyddyn mae sir neu ardal yng Nghymru yn cael ei dethol i noddi’r Sioe Amaethyddol a Clwyd sydd a’r fraint honno yn 2008. Mae ardal y sir nawdd eleni yn cynnwys Sir Ddinbych, Wrecsam, Conwy a Sir y Fflint” eglurodd Trebor Edwards. “Mae pwyllgorau wedi eu sefydlu ar draws yr ardaloedd gyda llwyth o weithgareddau amrywiol wedi’u cynnal eisoes er mwyn codi pres”.
Bydd y pres a gesglir gan Sir Nawdd Clwyd 2008 yn mynd tuag at adeiladu Neuadd Fwyd newydd ar faes y Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd.
Fel sir nawdd, mae gan yr ardal gyfle arbennig i hyrwyddo’i hun. Mae pecynnau nawdd arbennig ar gael i fusnesau sy’n awyddus i godi’u proffil ar faes y Sioe Fawr gan roi cyfle iddynt hefyd gefnogi ymdrechion gwirfoddolwyr lleol. Bydd unrhyw aelodaeth newydd sy’n deillio o ardal Clwyd yn ystod 2008 hefyd yn cyfri tuag at apêl Clwyd.
|
Mae gweithgareddau codi arian hyd yn hyn wedi cynnwys cinio lawns i’r apêl yn y Kinmel Manor, Abergele, Dawns Blwyddyn Newydd yng Ngwesty’r Beaufort Park Yr Wyddgrug a Derbyniad Siampen yn Ninbych. Mae llwyth o weithgareddau eraill ar y gweill, gan gynnwys cyngherddau, barbiciws, boreau coffi, ocsiynau addewidion a phenwythnos mawreddog ar Ystâd Rhug, Corwen rhwng y 5ed a 7fed Mehefin.
“Mae codi pres yn rhan annatod o sustem y Sir Nawdd, ond mae yna elfen bwysig arall i’r flwyddyn hefyd, sef dod â phawb ynghyd i fwynhau’r profiad o fod yn Sir Nawdd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 2008” medd Trebor.
“ Mae ymdrechion a brwdfrydedd y Pwyllgorau Codi Arian a Chlybiau Ffermwyr Ifanc i’w canmol. Bydd pob gweithgaredd yn cael ei nodi ar y wefan newydd a byddem wrth ein boddau petai pobl o gymunedau ar draws y pedair sir yn ymuno â ni i’n cynorthwyo i godi gymaint o bres ag sy’n bosib. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ni gyd ac yn cynnig cyfle gwych i ni arddangos yr hyn sy’n wych ac unigryw am ein hardal ar Faes y Sioe Amaethyddol yn 2008”
Dywedodd David Walters, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, “Mae’r gymdeithas yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth gan y Sir Nawdd eleni. Bydd y wefan yn chwarae rôl bwysig iawn wrth hyrwyddo gweithgareddau a chyfathrebu â phawb sydd wrthi yn gweithio i sicrhau bod Sioe 2008 yn un gofiadwy. Mae’r fenter yn esiampl o ymroddiad a brwdfrydedd gan gymunedau lleol sy’n gweithio er mwyn hybu buddiannau’r Sioe.”
Cyfeiriad y wefan: www.clwydroyalwelsh.org. Ymholiadau cyffredinol ynglyn â Sir Nawdd Clwyd, cysylltwch â Gwen Davies - 01352 740070.

|
|